Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 22 Mai 2023
Amser:
09.36 -
10.51
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13350
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Vikki Howells AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS John Griffiths AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Lisa Griffiths (Swyddog) Aled Elwyn Jones (Swyddog) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
1.2 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
2 Cofrestr Buddiannau'r Aelodau - newid arfaethedig i MS Forms
2.1 Cytunodd y Pwyllgor i argymell mabwysiadu'r ffurflen newydd i'r Llywydd.
2.2. Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Swyddfa Gyflwyno gyflwyno'r ffurflen newydd i'r Aelodau ym mis Medi.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylai’r Swyddfa Gyflwyno ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatblygu ffurflen electronig ar gyfer cofrestriadau cychwynnol ar ddechrau’r Seithfed Senedd.
3 Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau - ymatebion i'r ymgynghoriad
3.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad a chytunwyd ar nifer o feysydd i roi sylw manylach iddynt mewn cyfarfod diweddarach.
4 Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)
4.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).
5 Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)
5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).
6 Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)
6.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).
7 Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)
7.1 Esgusododd Peredur Owen Griffiths ei hun o’r eitem yn unol â Rheol Sefydlog 22.5.
7.2 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).